Rhian Siôn: Gyda’n Gilydd (GRIFFIN BOOKS AFTER HOURS)
Rydym ni wrth ein bodd yn cynnal digwyddiad i lansio Gyda’n Gilydd, nofel gyntaf yr awdur lleol Rhian Siôn. Bydd Rhian yn trafod ei gwaith gyda’r gantores a chyflwynydd BBC Radio Cymru 2 Lisa Angharad. Ymunwch â ni i ymgolli mewn llyfr newydd gwerth chweil.
Mae hwn yn ddigwyddiad Cymraeg.
We’re delighted to be hosting the launch event for local author Rhian Siôn’s debut novel, Gyda’n Gilydd. Rhian will be in conversation with BBC Radio Cymru 2 presenter and singer, Lisa Angharad. Join us for the perfect bookish evening. This is a Welsh-language event.
Gyda’n Gilydd
Mae Alys a Saffi yn ffrindiau gorau ond ers i Alys gael babi, does ganddyn nhw ddim llawer yn gyffredin. Ond pan ddaw Elina, mam newydd arall i’w bywydau’n annisgwyl, mae’r tair yn sylweddoli bod heriau bywyd yn haws wrth iddyn nhw eu wynebu gyda’i gilydd. Stori dwymgalon am chwaeroliaeth a’r angen am gymuned i fagu babi.
Alys and Saffi have been lifelong friends, but since Alys had a baby, they don’t have much in common. But when Elina, another new mother, unexpectedly enters their lives, the three realise that life’s challenges are easier to face together. A heartfelt story about sisterhood and the need for a community to raise a baby.
Rhian Sion
Mae Rhian Siôn yn awdur ac athrawes sy’n angerddol am adrodd streon. Gyda gradd yn y Gymraeg mae Rhian wedi ysbrydoli meddyliau ifanc drwy ysgrifennu i blant, ei gwaith fel ymarferydd creadigol, ac fel athrawes. Bellach, mae’n dod a’i llais unigryw i ffuglen i oedolion gyda’i nofel gyntaf, gan gyfuno ei diddordeb mewn llenyddiaeth gyfoes a’i phrofiad fel mam. Pan nad yw’n ysgrifennu, mae’n mwynhau bywyd ym Mhenarth gyda’i gŵr a’i dau fab ifanc, gan dynnu ysbrydoliaeth o’r byd bywiog o’i chwmpas.
Rhian Siôn is a writer and teacher with a passion for storytelling. With a degree in Welsh, she has inspired young minds through her children’s writing, her work as a creative practitioner, and her experience as a teacher. She now brings her unique voice to adult fiction with her debut novel, blending her interest in contemporary literature with her experiences of motherhood. When she’s not writing, she enjoys life in Penarth with her husband and two young sons, drawing inspiration from the vibrant world around her.
Mae’r digwyddiad yma yn rhan o gyfres newydd Griffin Books o sgyrsiau, cyfweliadau a thrafodaethau hwyrol fydd yn digwydd yn y gofod newydd sy’n y siop.
This event is part of our new Griffin Books After Hours series of talks, interviews and discussions, which will take place in our newly expanded shop.




