Swyn
Dewch gyda Swyn ar siwrne trwy fyd natur…
O’r cwningod cyfeillgar i’r hwyiaid hwyliog, mae Swyn yn caru natur! Ond wrth iddi hi geisio chwarae gyda’r creaduriaid clen, mae ganddyn nhw eu syniadau eu hunain ar sut gael hwyl! Gyda help ambell i anifail arbennig ar hyd y ffordd, mae Swyn yn dysgu mai nid trwy arwain neu ddilyn eraill y mae gwneud ffrindiau, ond trwy ddathlu y pethau hynny sy’n gwneud bob un ohonom ni yn unigryw.
Lapiwch yn gynnes ac ymunwch â Swyn a’i ffrindiau ar gyfer sioe swynol yn seiliedig ar y llyfr ‘Whimsy’ gan Krystal S. Lowe.
Yn cyfuno’r Gymraeg ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL), dyma gynhyrchiad arbennig fydd yn tanio dychymyg cynulleidfaoedd ifanc gyda stori a dawns.