Hansel a Gretel
Sioe Hansel a Gretel gan Theatr y Sherman yw’r daith berffaith i’r theatr i deuluoedd ac ysgolion dros y gaeaf eleni.
Mae Hansel and / a Gretel yn gyflwyniad perffaith i’r theatr ar gyfer plant rhwng 3 a 6 oed. Mae hi’n Noswyl Nadolig ond mae rhywbeth o’i le yn y goedwig. Mae coed pinwydd yn troi’n goed Losin. Mae’r afon yn gorlifo gyda thriog. Gwaith Sioned Siocled yw’r cyfan sy’n troi bob dim yn losin!
Dim ond Hansel a Gretel sy’n sefyll yn ei ffordd. Ânt ymaith ar antur anhygoel i achub y goedwig. Ar eu taith byddant yn cyfarfod ffrindiau newydd hudol megis Spencer y Wiwer a Trefor y Goeden. Byddant hefyd yn dysgu mai holi am gymorth yw’r peth dewraf y gall unrhywun ei wneud.
Yn dilyn eu cynyrchiadau clodwiw o Yr Hwyaden Fach Hyll , Y Coblynnod a’r Crydd ac Elen Benfelen, mae Hansel a Gretel gan Theatr y Sherman yn fersiwn newydd o’r stori y mae pawb yn ei garu gyda thro ychwanegol blasus a chwareus.
Yn llawn caneuon a chwerthin, mae’r sioe hudolus wedi’i greu’n arbennig ar gyfer y rheiny rhwng 3-6 oed yn cynnig rhyfeddod, cyfaredd a llawer iawn o hwyl.