Study at an Evening Class at Cardiff University

Cardiff University provides hundreds of part-time courses for adult learners to enable you to achieve your ambitions. Whether you would like to improve your CV, challenge yourself, learn something new, keep your mind active, make new friends or progress to degree studies by enrolling on one of our Pathways to a degree- we have the course to suit your needs.

This year we will be providing in-person teaching and online classes to fit in with your busy lifestyle. We are also offering free courses with the support of Higher Education Funding Council for Wales (HEFCW). More information about the Student Fee Waiver and eligibility can be found on our website.

Every year we receive positive feedback from students who have achieved their ambitions with us:

“The course was very engaging- I loved every session. I received valuable advice from industry professionals in how to pursue opportunities as a writer. It was the steppingstone I didn’t know I needed into taking myself a bit more seriously as an aspiring author, and made the publishing industry as a whole seem more accessible.”Emma Carr-Ferguson, Creative Writing student

“I was so nervous about returning to study after so many years, especially with a subject that I hadn’t previously studied. The support and communication prior to the course starting was brilliant, and I felt more at ease before the first lesson had even taken place.”Elinor Ridout, Pathway to Healthcare student

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig cannoedd o gyrsiau rhan- amser i oedolion sy’n dysgu, er
mwyn eich galluogi i gyflawni eich dyheadau. P’un a hoffech wella’ch CV, herio’ch hun, dysgu rhywbeth newydd, cadw’ch meddwl yn weithgar, gwneud ffrindiau newydd neu symud ymlaen i astudio gradd drwy gofrestru ar un o’n Llwybrau at radd – mae gennym gwrs sy’n gweddu i’ch anghenion.

Eleni byddwn yn cynnig dosbarthiadau addysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein er mwyn sicrhau bod y cyfan yn gweithio gyda phrysurdeb eich bywyd. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau rhad ac am ddim gyda chymorth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun Hepgor Ffioedd Myfyrwyr a chymhwysedd i’w gweld ar ein gwefan.

Bob blwyddyn rydym yn derbyn adborth cadarnhaol gan fyfyrwyr sydd wedi cyflawni eu dyheadau gyda ni:

“Roedd y cwrs yn ddiddorol iawn. Mwynheais bob sesiwn. Cefais gyngor gwerthfawr gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant ar sut mae awduron yn mynd ar drywydd cyfleoedd. Doeddwn i ddim yn gwybod mai’r cwrs hwn oedd yr union gam ymlaen roeddwn ei angen er mwyn gwirioneddol ddechrau ystyried fy hun yn ddarpar awdur. Gwnaeth hefyd ddangos i mi fod y diwydiant cyhoeddi o fewn fy nghyrraedd.”– Emma Carr-Ferguson, Myfyriwr Ysgrifennu Creadigol

“Roeddwn i mor nerfus ynghylch dechrau astudio eto ar ôl cynifer o flynyddoedd, yn enwedig pwnc nad oeddwn i wedi’i astudio o’r blaen. “Roedd y gefnogaeth a’r cyfathrebu cyn i’r cwrs ddechrau yn wych, ac roeddwn yn teimlo’n fwy cartrefol cyn i’r wers gyntaf gael ei chynnal hyd yn oed.”– Elinor Ridout, Myfyriwr Llwybr at Ofal Iechyd